Beti A'i Phobol

Informações:

Synopsis

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Episodes

  • Caitlin Kelly

    12/05/2024 Duration: 50min

    Caitlin Kelly yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd Caitlin ei geni a’i magu yn Llundain. Mae ei Mhâm, Elen yn dod o Gaerdydd ac mae ei Thad, David yn dod o Iwerddon. “Roedd y ddau ddiwylliant yna yn fy mywyd i o’r dechrau,”meddai.Mae Caitlin yn cofio ei bod hi a’i chwaer yn mynychu Ysgol Gymraeg Cymru Llundain pob dydd Gwener tra yn yr ysgol gynradd. Yn ystod weddill yr wythnos, roedd hi yn mynd i ysgol Gatholig merched yn unig. Fe aeth Caitlin ymlaen i astudio Diwinyddiaeth yn Rhydychen gyda’r ffocws ar Islam a seicoleg crefydd yng Ngholeg Worcester. Yna mi wnaeth gais i astudio newyddiaduriaeth yn Llundain a chael lle yn City University yn astudio newyddiaduriaeth teledu. Mae bellach yn gweithio fel newyddiadurwraig ac wedi bod yn gweithio gyda’r Groes Goch yn gwneud fideos a phecynnau ar gyfer y wasg. Fe dreuliodd amser yn Gaza a Wcráin.

  • Dafydd Rhys

    05/05/2024 Duration: 51min

    Dafydd Rhys Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru yw gwestai Beti George. Mae'n trafod heriau ariannol y mae'r sector yn eu hwynebu a'r cyfrifoldeb sydd arno a'r anrhydedd o gael gwneud y swydd. Cafodd Dafydd ei eni yn Brynaman ac roedd ei Dad yn Weinidog a’i Fam yn ddiwylliedig ac yn gerddorol yn chwarae’r delyn a’r piano. Oherwydd swydd ei Dad roedd Dafydd a’r teulu yn symud yn aml. Mae Dafydd wedi byw ddwywaith yn ardal Llanelli yn ystod ei fywyd ac felly mae’r ardal yma yn agos iawn at ei galon. Yna fe ddaeth cyfnod y 70’au, ’76 a ’77 ȃ cherddoriaeth Pync. Fe newidiodd y gerddoriaeth yma fywyd Dafydd yn llwyr. "Mi ddechreuais i fand o’r enw'r‘ Llygod Ffyrnig’ ac mae Beti'n chwarae sengl o’r enw NCB – National Coal Board a Dafydd oedd y prif ganwr. Dechreuodd Dafydd gwmni teledu annibynnol gyda Geraint Jarman. Cwmni Criw Byw a nhw oedd yn gyfrifol am Fideo Naw. Bu'n gweithio gyda S4C am gyfnodau ac mae'n trafod pwysigrwydd y sefydliad.

  • Shelley Rees

    28/04/2024 Duration: 50min

    Shelley Rees yr actores, cyn-wleidydd a chyflwynydd Radio Cymru yw gwestai Beti George. Yn wyneb cyfarwydd ar y sgrîn deledu am flynyddoedd wrth iddi bortreadu cymeriad Stacey yn yr opera sebon Pobol y Cwm, ar ôl gadael y gyfres yn 2012 bu’n Gynghorydd yn y Rhondda am 10 mlynedd, tan i ddigwyddiad lle y cafodd y ffin ei groesi ac fe gafodd ei bygwth a gadael y swydd yn fuan wedi hynny. Mae hi’n angerddol am actio ar Gymraeg ac yn ymfalchïo yn ei bro enedigol Ton Pentre yn Cwm Rhondda.

  • Rhian Cadwaladr

    21/04/2024 Duration: 50min

    Yr awdur a’r actor Rhian Cadwaladr yw gwestai Beti George, Beti a’i Phobol. Yn wreiddiol o bentre’ Llanberis mae Rhian Cadwaladr wedi ysgrifennu 10 o lyfrau - yn nofelau, llyfrau i blant a llyfrau coginio. ‘Roedd ei Mham yn cadw caffi yn eu cartref yn ystod tymor y gwyliau, ac ers yn blentyn bach mae ganddi ddiddordeb mawr mewn coginio. Diléit arall ydi cerdded, ac mae hi’n sôn am yr her a osododd iddi hi ei hun cyn troi yn 60 mlwydd oed, o gerdded 60 o gopaon, bryniau ac ambell fynydd.

  • Jonathan Roberts

    14/04/2024 Duration: 50min

    Jonathan Roberts o’r Bala yn wreiddiol sydd yn gweithio fel Cyfieithydd i gwmni cyfreithiol mawr yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd yw gwestai Beti George. Yn 14 mlwydd oed, ‘roedd o’n ysu i symud o’r Bala i fyw mewn dinas fawr, ac fe fu’n byw yn Lerpwl a Llundain am gyfnod cyn teithio i Frasil a syrthio mewn cariad gyda’r ddinas Rio. Mae’n byw mewn fflat sydd yn edrych ar y cerflun o Crist ar y Mynydd. Yn ystod covid fe symudodd am gyfnod i Bortiwgal ac mae’n sôn am ei fywyd diddorol ac yn dewis 4 darn o gerddoriaeth sydd yn golygu dipyn iddo.

  • Y Parchedicaf Andy John Archesgob Cymru

    31/03/2024 Duration: 50min

    Y Parchedicaf Andy John, Archesgob Cymru ac Esgob Bangor yw gwestai Beti George. Yn ogystal â phregethu mewn eglwysi, yn ei ieuenctid yn Aberystwyth roedd yn chwarae’r gitâr mewn band roc, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth byw ac yn hoff o'r grŵp Rush, Led Zepplin ac Elin Fflur.Mae ei Fam yn Kiwi. Cafodd ei magu yn Wellington yn Seland Newydd. Roedd ei Dad yn dysgu yn y Sorbonne ym Mharis a’i Fam yn cwblhau ei gradd ym Mharis yr un pryd. Cyfarfu’r ddau felly. Pan oedd Andy’n rhyw ddwyflwydd cafodd ei Dad waith yn gweithio ym Mhrifysgol Dunedin yn Seland Newydd a bu’r teulu’n byw yno am ddwy flynedd, ac mae'n siarad am y cyfnod yma.Cawn hanesion ei fywyd ac fe fydd yn sôn am ei obaith ar gyfer yr Eglwys. Gobaith Andy ar gyfer y dyfodol ydi i’r Eglwys fod yn hyderus a gallu llawenhau yn ei hunain. Ond hefyd o safbwynt y wlad, fod pobl Cymru yn gallu wynebu’r dyfodol efo gobaith ac i fwynhau'r pethau Cymraeg sy’n ein tynnu ni at ein gilydd.

  • Geraint Jones

    24/03/2024 Duration: 50min

    Geraint Jones cyn-swyddog cyswllt amaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chyn aelod o’r band Rocyn yw gwestai Beti George. Fe fu'n gweithio i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro am 40 mlynedd yn ceisio cael cydbwysedd rhwng yr amgylchedd a ffermio. Mae bellach yn gweithio fel bownsar neu geidwad drysau gyda'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae wedi wynebu dau gyfnod o salwch difrifol, ac yn siarad yn agored iawn am yr heriau a wynebodd.

  • Hazel Thomas

    17/03/2024 Duration: 50min

    Mae gan Hazel Thomas straeon rif y gwlith, mi fu’n torri gwalltiau, yn gwneud gwaith hyrwyddo a datblygu gyda Merched y Wawr. Mae hi'n Gydlynydd cynllun cyffroes Tir Glas gyda’r Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, ond yn fwy na dim hi oedd y fenyw 1af i weithio fel Chef yng nghegin y gwesty enwog The Dorchester yn Llundain. Ei swydd gyntaf fel Cogydd proffesiynol oedd gydag Anton Mosimann yn y Dorchester yn 1977. Y ferch gyntaf i gael swydd ganddo ar ôl iddo gael ei benodi fel Prif Gogydd y Dorchester. Cawn hanesion difyr bywyd y ferch o Drefach, aeth i weithio i Lundain o gefn gwlad Cymru yn y 70'au. Cawn hanes rhai o'r bobol enwog y bu'n coginio iddynt gan gynnwys Shirley Bassey.

  • Yr Arglwydd Dafydd Wigley

    12/03/2024 Duration: 01h16min

    Yr Arglwydd Dafydd Wigley yw gwestai Beti George, a hynny 50 mlynedd ers ei ethol i San Steffan eleni. Mae'n trafod hanesion ei fywyd prysur ac yn dewis ambell gân.Wedi 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth mae'r Arglwydd Dafydd Wigley wedi penderfynu ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi eleni. Mae’n dal record o ran Aelod Seneddol i gynyddu’r bleidlais a chynyddu canran y bleidlais a hynny mewn 5 etholiad yn olynol. Mae e wedi cynrychioli Arfon yn Senedd San Steffan am 27 mlynedd. Fe gafodd Mr Wigley ei ethol yn gynghorydd Plaid Cymru ym Merthyr yn 1972, cyn cynrychioli Caernarfon yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1974 a 2001.Roedd yn Aelod Cynulliad i Gaernarfon rhwng 1999 a 2003 ac mae wedi bod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2011."Pan ddes i Dŷ'r Arglwyddi gyntaf ddeng mlynedd yn ôl, doedd aelodau fan hyn ddim yn cael ymddeol, mi oeddan nhw'n mynd allan pan oeddan nhw'n marw. Ond wrth gwrs mae hawl i ymddeol wedi dod i fewn."Cawn stori’r Gangster, Murray the Hump - Llewellyn Morris Humphreys, fyddai wedi bod yn drydydd cefnder i Da

  • Dr Caroline Turner

    03/03/2024 Duration: 50min

    Cyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Powys, Dr Caroline Turner yw gwestai Beti George. Bu'n was sifil yn y Cynulliad fel roedd e arfer cael ei alw, ac fe fu'n 'Whistle Blower' unwaith hefyd pam doedd pethe ddim fel y dyle nhw fod yng Nghyngor Môn. Mae hi'n wreiddiol o Lanfachraeth, Ynys Môn. Mae'n rhannu straeon bywyd gyda Beti George ac yn dewis 4 cân sydd yn cofnodi cyfnodau mewn bywyd iddi gan gynnwys Enfys, Elin Fflur ac anthem Cyngor Ewrop.

  • Adam Jones

    25/02/2024 Duration: 50min

    Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr ardd fel mae'n cael ei adnabod. Fe gychwynnodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd yn 3 blwydd oed yng ngardd tad-cu yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei Dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo ac ef wnaeth gychwyn a meithrin ei sgiliau a’i wybodaeth am arddio. " Mae 'na dueddiad di bod yn y gorffennol i wneud garddio yn rhywbeth uchel-ael ti'n gwybod tu hwnt i gyrraedd y werin datws" meddai Adam wrth Beti George. Tu hwnt i’r ardd, mae Adam yn dipyn o ieithydd. Yn ystod ei gyfnod yn y Coleg yn Aberystwyth, astudiodd Almaeneg ac mae’n siarad yr iaith, ynghyd â Sbaeneg, rhywfaint o Ffrangeg ac Eidaleg, ac ychydig o Rwsieg, Pwyleg, Tyrceg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban. “Dw i’n meddwl fy mod i’n berson eithaf busneslyd ac achos hynny dw i’n licio dysgu ieithoedd. Dw i’n gwylio lot o ffilmiau a rhaglenni mewn ieithoedd gwahanol". Bu’n gweithio ym myd cyfieithu a chyfathrebu ar ôl graddio, gyda’r Mentrau Iaith ac yna’r Col

  • Miriam Lynn

    11/02/2024 Duration: 51min

    Dr Miriam Lynn sy'n arbenigo ar gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth mewn gwahanol feysydd yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd ei magu ym mhentref bach Llanfynydd ger y Wyddgrug. Ei thaid oedd yr emynydd enwog John Roberts Llanfwrog, ac mae Miriam yn sôn am ei hafau hapus yn Sir Fôn gyda Thaid a Nain. Mynychodd Brifysgol Dundee i astudio Microbioleg. Fel rhan o’i gradd cafodd flwyddyn i astudio yn Edmonton Canada. Treuliodd amser gorau ei bywyd yno yn cael cyfle i deithio, sgïo a mynd i ‘r Rockies bob penwythnos. Ar ôl graddio gwnaeth Ddoethuriaeth yn Newcastle mewn Microbioleg, ond ‘roedd well ganddi weithio gyda phobol, ac yn y blynyddoedd diwethaf bu yn gweithio yn cefnogi pobl ifanc LGBTQ+. Fe gafodd ddiagnosis o MS pam yn 37 mlwydd oed, ac mae hynny wedi newid ei bywyd. Mae hi wedi addasu ei ffordd o fyw, ac yn gweithio rhan amser. Mae hi’n hanner Iddewes, bu’n perthyn i’r Crynwyr a nawr Bwdïaeth sydd yn rhoi iddi hapusrwydd a llonyddwch. Mae hi'n rhannu straeon bywyd ac yn dewis ambell i g

  • Meleri Wyn James

    04/02/2024 Duration: 50min

    Yr awdur a golygydd Meleri Wyn James yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu yn Llandeilo, Beulah a Aberporth, ac mae hi bellach yn byw yn Aberystwyth. Mae hi'n redwraig frwd, ac yn credu bod rhedeg yn gymorth iddi gan ei bod yn byw gydag epilepsi. Mae hi wedi mabwysiadu dwy o enethod gyda’i gwr Siôn ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar gyfer plant ac oedolion gan gynnwys y gyfres boblogaidd Na, Nel! i blant. Meleri oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

  • Guto Bebb

    28/01/2024 Duration: 01h17min

    Mae Guto'n Brif Weithredwr Gwasanaeth Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru ers 2020 ac yn Brif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru yn ei gyfanrwydd ers Chwefror 2021. Cyn hynny, fe fu'n Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Guto wedi byw yng Nghaernarfon (ac eithrio ambell gyfnod yn crwydro) ers deugain mlynedd. Cyn ei ethol i San Steffan fe fu'n rhedeg amrywiol fusnesau gan gynnwys Ymgynghoriaeth Datblygu Economaidd a Siop Lyfrau. Am gyfnod, bu hefyd yn gydberchennog ar dŷ tafarn.Mae'n rhannu straeon am ei fywyd gyda Beti George ac yn sôn i'w yrfa bleidiol wleidyddol mewn dwy blaid wedi dod i ben oherwydd materion Ewropeaidd. Cawn glywed am ei hoffter o gerddoriaeth o bob math, a'i gasgliad o recordiau sy'n cynnwys nifer o rai Bruce Springsteen a Marillion.

  • clare e.potter

    21/01/2024 Duration: 50min

    Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi M.A. mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae’n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Enillodd Wobr John Trip am Berfformio Barddoniaeth yn 2005 a bu gyda’i thad ar y Listening Project ar BBC Radio 4, yn archwilio tarddiad emosiwn mewn barddoniaeth. Yn 2018, clare oedd bardd preswyl Gŵyl Velvet Coalmine – lle bu yn Sefydliad y Glowyr yn casglu straeon pobl am yr adeilad diwylliannol a gwleidyddol bwysig hwnnw. Mae'n enedigol o bentref Cefn Fforest ger Caerffili. Saesneg oedd iaith yr aelwyd a'r pentref ac fe gafodd ei ysbrydoli gan athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith.Clare oedd Bardd y Mis Radio Cymru cyn y Nadolig 2023.

  • Nayema Khan Williams

    14/01/2024 Duration: 50min

    Nayema Khan Williams sy’n ymuno â Beti. Mae Nayema a’i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Cawn glywed ei hanes difyr yn mentro o fyd y gwasanaeth iechyd i fyd triniaethau anfeddygol. Cafodd ei magu yng Nghaernarfon, daeth ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn y ddau’n wreiddiol o Pacistan. Daeth ei thad draw yn y 50/60au i Gaernarfon ac fe ddilynodd ei mam wedyn . Mae Nayema yn un o naw o blant a hi ydi’r ieuengaf ond un. Gwraig tŷ oedd ei mam a phan ddaeth ei thad draw o Bacistan i gychwyn bu’n gwerthu bagiau o gwmpas y tafarndai. Yna bu’n gwerthu bagiau yn farchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Cafodd ei magu’n Moslem ac 'roedd ei thad yn ffigwr blaenllaw yn y Mosque ym Mangor. Mae Naymea’n credu’n gryf fod angen mwy o ferched fentro mewn busnesau ac na ddylai merched ddim bod ofn cymryd y risg i ddechrau a chychwyn busnesau eu hunain.

  • Liz Saville Roberts

    07/01/2024 Duration: 51min

    Yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts ydi gwestai Beti George. Y ferch gyntaf yn hanes Plaid Cymru i ennill sedd yn Senedd San Steffan yn cynrychioli Dwyfor Meirionnydd. Cyn mentro i faes gwleidyddiaeth bu’n newyddiadura ac yn darlithio. Cafodd ei geni a’i magu yn Ne Ddwyrain Llundain. Aeth i’r Coleg yn Aberystwyth i astudio Cymraeg a Llydaweg a’r Mabinogi sy’n gyfrifol am ei denu i Gymru a chofleidio’r iaith a’i diwylliant.

  • Ifan Phillips

    31/12/2023 Duration: 50min

    Y cyn chwaraewr Rygbi Ifan Phillips ydi gwestai Beti a’i Phobol. Un sydd wedi chwarae Rygbi dros Gymru i’r tîm dan ugain yn y flwyddyn enillon nhw bencampwriaeth y chwe gwlad am y tro cyntaf. Mae wedi chwarae efo’r Gweilch yn safle’r Bachwr ond daeth hynny i gyd i ben ar ôl iddo gael damwain erchyll ar ei fotobeic. Mae o bellach yn hyfforddi tîm Crymych ac yn sylwebu ar y gêm.

  • Yws Gwynedd

    24/12/2023 Duration: 59min

    Y cerddor a Rheolwr Cwmni Recordiau Cosh, Yws Gwynedd ydi gwestai Beti a’i Phobol. Mae’n sôn am ei fywyd, algorithmau cerddorol, chwarae pêl droed, ei pum sied, tyfu llysiau, a'i deulu gan gynnwys hanes colli ei dad yn ystod cyfnod Cofid.

  • Cleif Harpwood

    10/12/2023 Duration: 51min

    Prif leisydd y band arloesol Edward H. Dafis, Cleif Harpwood yw gwestai Beti a’i Phobol, ond yn y rhifyn yma mae’n trafod mwy am hanes ei fywyd na’i gerddoriaeth. Bu’n hel atgofion gyda Beti George am ei fagwraeth yng Nghwmafan ac yn sôn am siop bapur newydd ei Dad, ac effaith y ffordd osgoi ar gymunedau’r ardal. Mae’n sôn am iselder sydd wedi ei lethu ar brydiau a hynny mae’n credu wedi deillio o’r elfen grefyddol yn ei fagwraeth yn Aberafan. Mae bellach wedi symud nôl i'r Gorllewin i fyw ac yn dewis 4 o'i hoff ganeuon, gan gynnwys 'Anifail' gan Candelas.

page 1 from 29